Building a stronger future for Welsh construction

Economy Minister, Vaughan Gething recently addressed a construction summit in Cardiff which brought together Welsh construction sector leaders during a period of economic pressures and challenges.

With around one in 20 of all jobs in Wales being in the construction sector, the summit was an opportunity for leaders to discuss the opportunities available in Wales and how best to lever those opportunities to grow the economy, create prosperity and provide the skills and training necessary for the workforce in a rapidly changing environment.

The summit also marks the start of a new relationship between Welsh Government and Constructing Excellence in Wales which will now provide Welsh ministers with specialist construction advice, real time market intelligence and a research capability.

The new relationship will improve the quality of engagement between government and the sector at a time when the economy is experiencing challenging times.

In addressing the summit at the Leonardo Hotel in Cardiff, the Economy Minister, Vaughan Gething, said: 

The Welsh Government recognises the important role that the construction industry plays in both supporting economic development in Wales and contributing to Wales’ engagement with businesses across the world. 

In these challenging times Construction Excellence in Wales’ members and industry views have never been more important to help achieve the objectives set out in the recently announced Economic Mission.

Our aim through the Economic Mission is to set Wales on a path to deliver a greener, fairer and more prosperous Wales.  We want to create an economic environment to support both wellbeing of the population and increase a focus upon productivity and growth, where nobody is left behind and to help more young people feel confident in planning ambitious futures in Wales.

One of our priorities is to create stronger partnerships for our everyday economy and I look forward to working more closely with Construction Excellence Wales.

This summit is timely, it brings together sector leaders engaged across the entire spectrum of activity and partnerships with the public sector.

The sector must remain confident and viable going forward if we are to see real economic growth in Wales.

However, this is not something that the government can achieve singlehandedly, it needs engagement and collaboration with the sector if we are to deliver on our programme and it needs honest debate to address the challenges that lie ahead.

Cat Griffith-Williams, CEO, Constructing Excellence in Wales, said: 

The Welsh built Environment is an innovative and interesting sector, which is central to Wales’ foundational economy, providing essential support for the well-being of all of us. We are delighted to have secured a partnership contract with Welsh Government and am passionate about working with industry stakeholders, Welsh Government Ministers and officials to represent the construction sector in Wales. This more formalised arrangement clearly demonstrates the importance of the sector to the Economic Mission of Wales. CEWales has a long-standing, reputable legacy of providing professional specialist construction advice; we are passionate to support Welsh Ministers to deliver Welsh Government priorities across the Welsh construction sector, gathering real-time market intelligence, articulating and engaging with the wider Welsh construction sector.

Cymraeg:

Yn ddiweddar, fe anerchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething uwchgynhadledd adeiladu yng Nghaerdydd a ddaeth ag arweinwyr y sector adeiladu yng Nghymru ynghyd yn ystod cyfnod o bwysau a heriau economaidd.

Gyda thua un o bob 20 o'r holl swyddi yng Nghymru yn y sector adeiladu, roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle i arweinwyr drafod y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru a'r ffordd orau o ysgogi'r cyfleoedd hynny i dyfu'r economi, creu ffyniant a darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant angenrheidiol i'r gweithlu mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.

Mae'r uwchgynhadledd hefyd yn nodi dechrau perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru a fydd nawr yn rhoi cyngor adeiladu arbenigol i Weinidogion Cymru, deallusrwydd o'r farchnad mewn amser real ac yn datblygu gallu ym maes ymchwil.

Bydd y berthynas newydd yn gwella ansawdd yr ymgysylltiad rhwng y llywodraeth a'r sector ar adeg heriol i'n heconomi.

Wrth annerch yr uwchgynhadledd yng Ngwesty'r Leonardo yng Nghaerdydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig y mae'r diwydiant adeiladu yn ei chwarae wrth2 gefnogi datblygiad economaidd yng Nghymru a chyfrannu at gysylltiad Cymru â busnesau ledled y byd. 

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, ni fu barn aelodau a diwydiant Cymru erioed yn bwysicach i helpu i gyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Genhadaeth Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac edrychwn ymlaen at berthynas waith agosach wrth symud ymlaen.

Ein nod drwy'r Genhadaeth Economaidd yw gosod Cymru ar lwybr i ddarparu Cymru wyrddach, tecach a mwy llewyrchus.  Rydym am greu amgylchedd economaidd i gefnogi lles y boblogaeth a chynyddu ffocws ar gynhyrchiant a thwf, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ac i helpu mwy o bobl ifanc i deimlo'n hyderus wrth gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.

Un o'n blaenoriaethau yw creu partneriaethau cryfach ar gyfer ein heconomi bob dydd ac edrychaf ymlaen at weithio'n agosach gyda Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru.

Mae'r uwchgynhadledd hon yn amserol, mae'n dwyn ynghyd arweinwyr y sector sy'n ymwneud â'r sbectrwm cyfan o weithgarwch a phartneriaethau â'r sector cyhoeddus.

Rhaid i'r sector barhau i fod yn hyderus ac yn hyfyw wrth symud ymlaen os ydym am weld twf economaidd go iawn yng Nghymru.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhywbeth y gall y llywodraeth ei gyflawni ar ei phen ei hun, mae angen ymgysylltu a chydweithio â'r sector os ydym am gyflawni ein rhaglen ac mae angen trafodaeth onest  i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau.

Dywedodd Cat Griffith-Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Adeiladu Arbenigedd yng Nghymru: 

Mae'r Amgylchedd adeiledu Cymreig yn sector arloesol a diddorol, sy'n ganolog i economi bobdydd Cymru, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i les pob un ohonom. Rwy'n falch iawn fy mod wedi sicrhau contract partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac rwy'n angerddol am weithio gyda rhanddeiliaid y diwydiant, Gweinidogion Llywodraeth Cymru a swyddogion i gynrychioli'r sector adeiladu yng Nghymru. Mae 'r trefniant mwy ffurfiol hwn yn dangos yn glir bwysigrwydd y sector i Genhadaeth Economaidd Cymru. Mae gan Adeiladu Arbenigedd yng Nghymru etifeddiaeth hirsefydlog, ag enw da o ddarparu cyngor adeiladu arbenigol proffesiynol; rydym yn angerddol i gefnogi Gweinidogion Cymru i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar draws y sector adeiladu yng Nghymru, gan gasglu gwybodaeth am y farchnad, mynegi ac ymgysylltu â'r sector adeiladu ehangach yng Nghymru.